Yr FCA sy’n gosod rheolau newydd i gynnal mynediad at arian parod mewn byd cynyddol ddigidol

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cynnig rheolau newydd i gynnal mynediad rhesymol i arian parod ar gyfer cwsmeriaid personol a busnes ledled y DU. Mae hyn yn dilyn pwerau newydd a roddwyd i’r FCA gan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2023.

O dan gynigion yr FCA, bydd angen i fanciau a chymdeithasau adeiladu dynodedig asesu bylchau mewn mynediad at arian parod. Mae angen i’r asesiadau hyn ystyried ffactorau lleol fel demograffeg a thrafnidiaeth. Pan fydd cwmnïau’n adnabod bylchau, bydd angen iddynt weithredu i fynd i’r afael â’r anghenion hyn.

Dywedodd Sheldon Mills, Cyfarwyddwr Gweithredol Defnyddwyr a Chystadleuaeth yn yr FCA: ‘Rydym yn gwybod, er bod symudiad cynyddol i daliadau digidol, bod dros 3 miliwn o ddefnyddwyr yn dal i ddibynnu ar arian parod – yn enwedig pobl a allai fod yn fregus – yn ogystal â llawer o fusnesau bach. Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi defnyddwyr y mae datblygiadau arloesol diweddar yn effeithio arnynt.

‘Mae’r cynigion hyn yn nodi sut y bydd angen i fanciau a chymdeithasau adeiladu asesu a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth arian parod leol. Bydd hyn yn helpu i reoli cyflymder y newid a sicrhau y gall pobl barhau i gael gafael ar arian parod os oes ei angen arnynt.’

O Ch1 2023, mae 95.1% o boblogaeth y DU o fewn 1 filltir i bwynt tynnu arian parod am ddim, fel peiriannau arian parod neu ganghennau Swyddfa’r Post. Mae 99.7% o boblogaeth y DU o fewn 3 milltir. Fodd bynnag, gall argaeledd gwasanaethau mynediad arian parod effeithio ar gymunedau lleol, economïau a’r stryd fawr, ac felly mae’n bwysig cwrdd ag anghenion lleol – a allai newid dros amser.

O dan y cynigion, bydd yn ofynnol i gwmnïau penodedig:

Cynnal asesiadau mynediad arian parod pan fo newidiadau’n cael eu gwneud i wasanaethau mynediad arian parod – er mwyn deall a oes angen gwasanaethau ychwanegol i gwrdd â bylchau lleol.
Ymateb i geisiadau gan drigolion lleol, sefydliadau cymunedol a chynrychiolwyr i ystyried, asesu a llenwi bylchau.
Darparu gwasanaethau arian parod ychwanegol rhesymol i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth lle mae asesiadau’n dangos bod bwlch lleol sylweddol neu y bydd bwlch lleol sylweddol.
Sicrhau nad ydynt yn cau cyfleusterau arian parod, gan gynnwys canghennau banc, hyd nes y bydd unrhyw wasanaethau arian parod ychwanegol sydd wedi’u hadnabod ar gael.
Nid yw pwerau newydd yr FCA yn atal canghennau banciau rhag cau. Fodd bynnag, bydd y rheolau’n cael effaith lle mae canghennau’n ffynhonnell arian parod lleol allweddol. Bydd yr FCA yn sicrhau bod y rheolau hyn yn gweithio law y llaw â’i ganllawiau presennol ar gau canghennau banc. Mae’r gyfraith bresennol yn caniatáu i fanwerthwyr benderfynu a ydynt yn derbyn arian parod ai peidio – felly ni all yr FCA fynnu eu bod yn gwneud hynny.

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 8 Chwefror. Mae’r FCA yn disgwyl cwblhau’r rheolau erbyn Ch3 2024.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *